Rhagymadrodd: ‘Claddu’
Sut mae’r frawddeg agoriadol yn dal eich sylw?
Manylwch ar yr hyn mae’r dyn yn ei wneud. Dyfynnwch!
Beth ydych chi’n credu sy’n cael ei ‘gladdu’ yn y bennod agoriadol hon?
Pa argraffiadau gewch chi o gymeriad Jôs a’i weithgareddau yma? Dyfynnwch!
Sut mae’r tywydd yn ychwanegu at awyrgylch y bennod?
Beth sy’n arbennig am arddull Alun Jones ar ddechrau nofel fel hon?
Pa fath o awyrgylch sy’n cael ei chreu yn y bennod hon?
Trafodwch bedair nodwedd arddull sy’n ychwanegu at yr effaith.
Nodwedd:
Nodwedd:
Nodwedd:
Nodwedd:
Pa mor effeithiol yw ‘Claddu’ fel cyflwyniad i’r nofel?
Ydy’r awdur yn ennyn ein chwilfrydedd i ddarllen ymlaen? Sut?
Pennod 1
Beth a ddysgwch am gymeriad Meredydd Parri? Dyfynnwch!
Pa fath o bobl yw’r rhai sy’n cynrychioli Cyfraith a Threfn?
Y Barnwr:
Y Bargyfreithiwr:
Gwyndaf Pritchard:
Beth yw agwedd Gareth Hughes, yr heddwas, am yr achos llys?
Beth yw ymateb Teulu Gwastad Hir i’r ddedfryd? Dyfynnwch!
Pa fath o berson yw Gladys Drofa Ganol? A ellir ei chymryd hi o ddifrif?
Rhowch fanylion am gymeriad Now Tan Ceris yma – ei fywyd a’i berthynas â chymeriadau’r Wylan Wen. Dyfynnwch!
Trwy neidio o un olygfa i’r llall – ydy’r stori yn fwy cyffrous? Sut?
Disgrifiwch sut mae’r bennod wedi’i hadeiladu.
Tasg ddychmygus:
Ysgrifennwch ymson Gladys Davies Drofa Ganol wedi iddi glywed y newyddion. Cofiwch ddangos ei hymateb i achos llys Meredydd Parri a chofiwch hefyd ei bod hi’n perthyn i Bethan Gwastad Hir.
Syniadau:
Pennod 2
Beth yw barn Meredydd am gyfraith a threfn?
Beth mae’n ei deimlo ar ôl dychwelyd adref?
Pa fath o berthynas sydd rhwng Meredydd a’i fodryb?
Rhowch ddyfyniadau i brofi barn Meredydd am ei gymdoges – Gladys Drofa Ganol?
Ysgrifennwch am yr anhrefn yn fferm Gwastad Hir. Sut mae’r cymeriadau’n ymddwyn wrth ymateb i’r hyn a ddigwyddodd yn y llys? (tt. 33- 37)
Faint o gefnogaeth mae Meredydd yn ei gael wrth fynd i’r pentref i siopa?
Siop y Cigydd:
Siop Harri Jôs:
Y Swyddfa Bost:
Manylwch ar olygfa’r Garej ac ymateb Huw Gwastad Hir wrth weld Meredydd.
Faint o gefnogaeth gaiff Meredydd yn yr Wylan Wen?
Trafodwch arddull yr olygfa pan mae Huw Gwastad Hir yn ymosod ar Meredydd, ac ymateb y trigolion lleol i’r hyn a ddigwyddodd. (tt. 50 – 55)
Tasg ddychmygus:
Ysgrifennwch adroddiad swyddogol gan Gareth Hughes am yr hyn a ddigwyddodd yn Hirfaen yn ddiweddar.
Cofiwch y byddai’n cadw golwg manwl ar Huw Gwastad Hir.
Syniadau:
Pennod 3 [pic]
Disgrifiwch gyflwr Harri Evans yn yr ysbyty.
Pa nodweddion arddull a ddefnyddir i’w ddisgrifio? Dyfynnwch!
Esboniwch yr hyn sydd gan Harri Evans i’w ddweud wrth Inspector Roberts, wrth iddo gyffesu ei ran yn y lladrad.
Ydy cyflwyno Harri Evans fan hyn yn effeithiol?
Pam na chyflwynwyd ei hanes ynghynt yn y nofel?
Pam oedd rhaid i Harri fod mor sâl - o safbwynt yr awdur?
Pwy yw’r dyn cloff sy’n dod i ymweld â Harri?
Nodwch ble, pryd a sut mae’n cysylltu â’r ysbyty.
Beth a wyddoch chi am gymeriad Harri Evans o’r hyn sydd ganddo i’w ddweud? Beth yw ei agwedd at William Hughes a’r hyn a wnaeth iddo?
Mae’n amlwg bod dau linyn storïol yn datblygu yn y nofel hon.
Pa gymeriadau sy’n ganolog i’r stori?
Llinyn Stori 1:
Llinyn Stori 2:
Tasg ddychmygus:
Lluniwch dudalen flaen erthygl papur newydd yn adrodd hanes y lladrad o’r siop yn Wrecsam. Dylech gyfeirio at enw’r siop, beth a ddygwyd, pwy oedd yn gyfrifol a hanes y saethu.
Syniadau:
[pic]
Pennod 4 [pic]
Disgrifiwch deimladau Meredydd ar ddechrau’r bennod hon.
Ydych chi’n gallu cydymdeimlo ag e?
Rydyn ni’n cwrdd ag Einir am y tro cyntaf wrth i Meredydd ymweld â gwesty’r Erddig. Ysgrifennwch yr hyn a ddysgwch amdani.
Pa wybodaeth gawn ni yn ystod y bennod hon sy’n ychwanegu at blot y stori?
Pa fath o awyrgylch a grëir yn yr olygfa rhwng Einir a Meredydd?
Pa dechnegau arddull a ddefnyddia’r awdur i greu hyn?
Daw Richard Jones i aros i westy’r Erddig.
Disgrifiwch ei bersonoliaeth a’i ymddygiad. Ydy e’n gymeriad amheus?
Edrychwch eto ar y paragraff sy’n dechrau gyda “Harri Evans...” – tudalen 79 a darllenwch hyd at ddiwedd tudalen 80. Sut mae’r awdur yn cyfleu meddyliau Richard am Harri a’r hyn a wnaethon nhw?
Beth sy’n digwydd ar ddiwedd y bennod?
Tasg ddychmygus:
Ysgrifennwch gofnod yn nyddiadur Meredydd y noson honno. Gallwch gyfeirio at yr achos llys a’i berthynas gyda Bethan Gwastad Hir cyn sôn am y pleser o gyfarfod ag Einir. Gallwch ysgrifennu hefyd am ei argraffiadau cyntaf o Richard Jones.
Pennod 5 [pic]
Pam fod Richard Jones wedi dewis ardal Hirfaen ar gyfer ei gynlluniau?
Beth yw ei gysylltiad â’r ardal?
Beth sydd yna erbyn hyn yng nghaeau Tan Ceris? Manylwch.
Darllenwch y paragraff “Dechreuodd ei galon guro ...” Pa nodweddion arddull ddefnyddia’r awdur i gyfleu ymateb Richard Jones i’r hyn a welai?
Pa fath o bortread o Gladys Drofa Ganol a geir yn y bennod hon?
Manylwch ar y cyfarfyddiad rhyngddi â Richard Jones yna’i hymweliad â’r heddlu. Cofiwch sôn am ei hiechyd.
Sut mae’r awdur yn cyfleu hiwmor yn y sgwrs rhwng Gareth a Gladys? Trafodwch yr arddull.
Gwelir yr un olygfa gyda Richard a Gladys o safbwynt Meredydd.
Ydy hyn yn effeithiol? Pam?
Manylwch ar gynnwys y sgwrs rhwng Gareth Hughes a Meredydd ar ddiwedd y bennod.
Pa mor gredadwy yw cof Gareth Hughes? Ydy e’n rhy dda?
Ymhle mae’r ddau linyn storïol yn cwrdd hyd yn hyn? Nodwch sut mae’r gwahanol gymeriadau yn dod ar draws ei gilydd a hefyd sut mae’n effeithio ar gynllun y stori.
Tasg ddychmygus:
Dychmygwch beth fyddai’n mynd trwy feddwl Richard Jones wrth iddo orwedd ar ei wely yn y gwesty'r noson honno. Ysgrifennwch ymson y cymeriad gan ddangos ei ymateb i farwolaeth Harri, y siom o weld y tai yn Nhan Ceris, y gemau a’r digwyddiad gyda Gladys.
Syniadau:
Pennod 6 [pic]
Pa ddarlun a geir o’r Arolygydd (Inspector) a’r Rhingyll (Sarjant)?
Ydy’r awdur yn feirniadol o’r heddlu?
Beth yw barn Gareth Hughes o’r ddau ddyn?
Rhowch dystiolaeth i brofi eich ateb.
Disgrifiwch deimladau Meredydd wrth weld Bethan Gwastad Hir yn y siop.
Nid yw Meredydd ac Einir yn hoffi Richard Jones. Pam?
Sut mae Gladys yn ymateb wrth weld Meredydd ac Einir yn cyrraedd Maes Ceris? Soniwch hefyd sut mae’r awdur yn creu’r olygfa o safbwynt arddull.
Beth mae Meredydd ac Einir yn ei weld wrth gerdded ar y hyd Llwybr Uwchlaw’r Môr? Pa mor agos at ei gilydd yw’r ddau erbyn hyn?
Ydy cymeriad Richard Jones yn datblygu fel y down i’w adnabod fwy?
Ydy ei bersonoliaeth annymunol yn amlwg? Pam fod e’n holi cymaint?
Tasg ddychmygus:
Ysgrifennwch ddyddiadur Bethan Hughes Gwastad Hir yn sôn am ei phrofiad y bore hwnnw gyda Meredydd. Gallwch drafod yr achos llys, ymateb ei theulu i’r hyn a ddigwyddodd yn ogystal â’i meddyliau am Meredydd hefyd.
Syniadau:
Pennod 7 [pic]
Pa fath o groeso mae Richard Jones yn ei gael yn Nhan Ceris gan Now a Dwalad? Esboniwch a dyfynnwch.
Disgrifiwch Tan Ceris ac ymateb Richard Jones i’r lle.
Oes yna nodweddion arddull sy’n cyfleu teimladau Richard?
Pa gwestiynau mae Richard Jones yn eu holi i Now Tan Ceris?
Disgrifiwch y croeso mae’r ddau yn ei gael yn Yr Wylan Wen.
Wrth i Richard Jones brynu diodydd i Now, pa wybodaeth bwysig mae’n llwyddo i’w ddarganfod ganddo?
Disgrifiwch deimladau Gareth Hughes yn y bennod wrth i ragor o fanylion ddod i’w law.
“Mi welaf olau draw oedd hi.”
Beth sy’n mynd trwy feddwl Richard Jones, a beth mae am ei wneud nesaf?
Esboniwch sut mae’r awdur yn cyfleu tymer ac agwedd Richard Jones. (tt. 142 – 144) Trafodwch dair nodwedd arddull.
Tasg ddychmygus:
Lluniwch ymson Now wrth iddo siarad gyda Dwalad y ci'r noson honno. Beth fyddai ei ymateb i Richard Jones a’i gefndir? Gellir sôn am yfwyr Yr Wylan Wen, Gladys, Gareth a Meredydd.
Syniadau:
Pennod 8 [pic]
Pa ddatblygiadau geir ym mherthynas Meredydd ac Einir?
Mae Meredydd yn adrodd marwolaeth ei rieni wrth Einir – beth ddigwyddodd iddynt?
Trafodwch ddwy nodwedd arddull sy’n cyfleu erchyllter yr hyn a ddigwyddodd i rieni Meredydd. (tt. 154 – 155)
Beth yw ymateb Einir i’r newyddion? Ydych chi’n gallu gweld bai ar Meredydd? Pa fath o newid sy’n dod drosto?
Sut mae cymeriad Gladys Drofa Ganol wedi newid?
Disgrifiwch yr hyn sy’n digwydd o amgylch tŷ Gladys.
Sut mae’r hyn sy’n digwydd iddi hi’n cysylltu gyda’r hyn a wyddoch chi amdani?
Trafodwch arddull yr awdur wrth gyfleu tensiwn ar ddiwedd y bennod hon.
Tasg ddychmygus:
Ysgrifennwch lythyr gan Einir at ei ffrind pennaf ym Mhorthmadog yn sôn am y digwyddiadau diweddaraf yn y nofel. Gallwch sôn am helynt Richard Jones a’r berthynas newydd rhyngddi â Meredydd.
Cofiwch ddefnyddio ffeithiau o’r nofel yn eich llythyr.
Syniadau:[pic]
Pennod 9 [pic]
Mae’r heddlu wedi bod yn cadw llygaid ar Richard Jones. Beth yw hanes ei helyntion diweddar?
O’r hyn a ddarllenoch yn y bennod, beth ddigwyddodd yn swyddfa Idwal Roberts?
Beth yw cynlluniau nesaf Richard Jones, yn ôl yr Arolygydd Roberts?
(tt. 164 - 165.)
Pwy sy’n hysbysu Gareth bod rhywbeth o’i le gyda Gladys Drofa Ganol?
Pam fod Gareth yn synnu at yr alwad ffôn?
Beth mae Richard Jones yn ei weld trwy ei sbienddrych o ben Mynydd Ceris? Nodwch yn fanwl. (tt. 169 - 170)
Beth yw ymateb Einir wedi i Meredydd ofyn iddi i’w briodi?
Rhowch resymau dros ei hateb iddo.
Pa ffeithiau pwysig sy’n cael eu cyflwyno yn y bennod hon?
Crynhowch y wybodaeth a dyfynnwch.
Tasg ddychmygus:
Lluniwch adroddiad gan yr Arolygydd Roberts yn adrodd helyntion diweddar yn yr ardal.
Defnyddiwch y wybodaeth o’r nofel gyfan hyd yma fel sail i’w adroddiad.
Syniadau:
Pennod 10 [pic]
Pam fod Huw Gwastad Hir yn dathlu ym Mhenerddig?
Disgrifiwch ei feddyliau a’i feddwdod.
Dywed Wil Garej wrth Gareth Hughes bod Huw wedi bod yn trafod ymosod ar Meredydd Parri. Pam fod Gareth yn teimlo fod angen iddo “dalu cymwynas yn ôl i Meredydd”?
Disgrifiwch yr ymosodiad ar Huw, gan ddyfynnu.
Manylwch ar yr hyn sy’n digwydd ar fferm Gwastad Hir y bore hwn.
Roedd teimladau Gladys yn negyddol tuag at Meredydd ers amser hir.
Beth oedd y rhesymau dros hyn mewn gwirionedd?
“Ar ruddiau’r heddwas Hirfaen y disgynnodd yr unig ddagrau yng nghynhebrwng Gladys Davies.”
Esboniwch y dyfyniad gan fanylu ar awyrgylch yr angladd.
Ymhle gwelir hiwmor yn y bennod hon? Dyfynnwch!
Beth a ddysgwch am gymeriad Now Tan Ceris yn y bennod?
Tasg ysgrifennu:
Lluniwch bortread o Gladys Drofa Ganol. Dylech sôn am ei chefndir, ei theulu a’i phersonoliaeth. Ceisiwch roi darlun cyflawn ohoni gan ddyfynnu.
Pennod 11 [pic]
Disgrifiwch dymer a gobeithion Richard Jones ar ddechrau’r bennod?
Mae’r ddau linyn storïol yn dod ynghyd yma. Nid yw Meredydd Parri na Richard Jones yn hoffi ei gilydd. Sut mae’r awdur yn dangos hyn i ni?
Pa gyfeiriadau tebyg sydd yna rhwng y bennod ‘Claddu’ a’r bennod hon? Manylwch ar weithredoedd Richard.
Trafodwch yr awyrgylch ar dudalennau 203 – 205.
Disgrifiwch sut mae’r awdur yn adeiladu’r teimlad o densiwn.
“Wylodd fel baban; wylodd nes bod y dirdyniadau’n trydanu trwy ei gorff, ond wylodd yn ddistaw.” Pam?
Sut mae’r arddull yn cyfleu panig Richard pan glyw’r heddlu y tu allan i’r sied? Manylwch.
“Ac yna clywodd sŵn y môr”. Ydy teitl y nofel yn addas?
Disgrifiwch ymgais Richard i ddianc dros y caeau. Beth yw tynged Dwalad?
Beth ddigwyddodd i Richard Jones a’r gemau?
Tasg ddychmygus:
Ysgrifennwch ymson olaf Richard Jones wrth iddo ffoi. Soniwch am ei feddyliau am y gemau, Harri, Now a Dwalad, y croeso ym Mhenerddig gan Einir a Meredydd a’r siom bod ei holl gynlluniau wedi methu.
Pennod 12 [pic]
A ddylai’r nofel fod wedi gorffen gyda Richard yn syrthio i’r môr? Pam?
Allwch chi gydymdeimlo ag agwedd Meredydd gyda’r heddlu?
Nodwch feddyliau Meredydd wrth iddo ffraeo gyda’r Rhingyll.
Disgrifiwch ymateb Now i ddigwyddiadau’r noson cynt.
Beth a ddysgwch am gymeriadau Hirfaen ar ddiwedd y nofel?
Sut mae cymeriad Meredydd wedi datblygu yn y nofel?
Beth fydd hanes Meredydd ac Einir yn y dyfodol tybed?
Wnaethoch chi fwynhau’r nofel?
Manylwch ar olygfeydd penodol a dyfynnwch.
Tasg ddychmygus:
Ysgrifennwch ddeialog rhwng Gareth Hughes a Meredydd Parri am ddigwyddiadau’r wythnosau diwethaf wrth iddyn nhw drafod yn yr Wylan Wen.
Syniadau: