Trafodwch tuedd diwylliannol mewn seicoleg.
Mae llawer o ddamcaniaethau seicolegol yn cael eu rhwystro gan ragfarn diwylliannol y seicolegwyr, a all yn y pen draw negyddu eu dilysrwydd. Rydym yn tueddu i weld y credoau, arferion ac ymddygiad ein grŵp diwylliannol eu hunain fel un normal neu hyd yn oed yn uwch, a rhai grwpiau eraill fel rhyfedd neu gwyrol. Wnaeth Hare-Mustin a Maracek penderfynnu bod rhaid i ni ddarganfod i ba raddau mae pob ymchwil gyda tuedd a ddarganfod pa tuedd. Mae na dau fath o tuedd, tuedd alfa sydd yn gor-bwysleisio’r gwahaniaeth rhwng ddwy diwylliant, enghraifft o tuedd alfa yw diwylliannau cyfunolaidd a unigolyddol(e.e America a Japan) felly byddwn yn ddisgwyl i diwylliant unigolyddol i cydymffurfio llai a diwylliant cyfunolaidd i cydymffurfio mwy. Gan bod yr diwylliant unigolyddol yn llai tebygol o cydymffurfio llai i normau grwp. Hefyd mae tuedd beta sydd yn anwybyddu’r gwahaniaeth rhwng diwylliannau sy’n arwain at ethnocentrwydd. Enghraifft o hyn yw astudiaeth Yerks, wnaeth o yr prawf IQ yr problem gyda hyn yw pob seicolegwyr Gorllewinol yn tybio bod eu diffiniad nhw o ddeallusrwydd yn gyffredin i bob diwylliant, a nad yw hyn yn wir i bod diwylliant gan bod rhai diwylliannau yn llai ddeallus na eraill.
I wneud seicoleg traws diwylliannol fel a waneth Buss yn lleihau yr effaith ethnosentrwydd. Yr problem yw pob person yn ei diwylliant ei hun yn weld popeth yn normal a phethau mewn diwylliannau eraill yn abnormal ac felly bydd y seicolegwyr yn defnyddio normau a gwerthoedd ei grŵp ethnig nhw. Wnaeth Buss astudiaeth yn cynnwys menywod a ddynion dros y byd i gyd, casglodd Buss gwybodaeth o 10,047 yn ddiwylliannol, yn wleidyddol, a phobl amrywiol yn economaidd, wnaeth o ddarganfod fod pob un o'i rhagfynegiadau wedi cael cefnogaeth empirig o'r data a gasglodd. Ar draws diwylliannau, mae pobl yn tueddu i osod yr un pwysigrwydd ar nodweddion penodol o ran ymddygiad, ond heblaw am 22% o menywod ddim eisiau ddiwydrwydd yn ei phartner gan bod menywod yn wneud y waith i gyd yn ei ddiwylliant nhw, i wneud yr astudiaeth yn fwy dilys wnaeth Buss addasu’r holiaduron i ystyried normau gwlad fel byw gyda’i gilydd, priodi fel yn sweeden. Hefyd wnaeth Buss cael prodorin y wlad i cynnal yr holiaduron i wneud yn fwy dilys, ac i cyfieithu i iaith y wlad ac yna wnaeth cyfieithu nol i ddeall ystyr y iaith.
Wnaeth Asch astudiaeth hefyd ar barnau a phwysau cymdeithasol yn america a welodd bod, 40% o’r cyfranogwyr wedi cydymffurfio i’r ateb anghywir o’r treifion allweddol, 25% ohonym byth wedi cydymffurfio a barn y mwyafrif gan ateb yn annibynnol, wrth i 5% ohonym cydymffurfio i bod treial, a 75% wedi cydymffurfio o leiaf unwaith. Mae’r astudiaeth hyn yn ddangos tuedd diwylliannol gan ei bod wedi wneud yr astudiaeth yn America yn unig ac felly efallai nad ydyn yn berthnasol i prydain a wledydd arall, wnaeth Asch ail wneud ei arbrawf sawl tro yn yr Unol Daleithiau ac hefyd yn Hong Kong, Zimbabwe a Fiji, wnaeth Smith a Bond (1993) cymharu yr canlyniadau hyn wrth diwylliant cyfunolaidd, sef wledydd efo gwerth uwch a grŵp a diwylliant unigolyddol sef wledydd sydd a werth uwch a’r unigolyn. Mewn diwylliant unigolyddol mae 14%-39% wedi ei gydymffurfio ar wledydd cyfunolaidd wnaeth 25%-58% cydymffurfio. Ond mae hyn dal yn ddangos bod yna tuedd diwylliannol yn ei astudiaeth gan bod mae’n amlwg bod y diwylliant cyfunolaidd yn mynd i cydymffurfio gan bod dyna beth sydd y norm, ac felly mae’n anodd i cymharu y ddwy ddiwylliant oherwydd y gwahanol norm a gwerthoedd.
Mae’r Unol Daleithiau yw’r byd cyntaf seicoleg ac felly yn dominyddu pob astudiaeth seicoleg gan mae nhw yn rheoli llyfrau, cylchgronnau, canolfannau ac yn y blaen, ac felly gyda’r hawl i’w monopoleiddio wybodaeth. Yr ail fyd yw’r Gorllewin Ewrop a Russia. Mae nhw gyda dipyn llai o ddylanwad seicoleg, er dyma ble deilliodd gwreiddiau athronyddol seicoleg fodern, a dyma ble wnaeth freud i gyd o’i astudiaethau. Ac felly y trydydd byd sef India yw’r wlad mwyaf pwysig, ond yn tueddu i dilyn egwyddorion o’r UD ac rhywfaint o Ewrop, ac hefyd yn mewnforio gwybodaeth seicolegol, sy’n tueddu i bod o gysylltiad hanesyddol.
Adnabwyd Pike cyntaf y gwahaniaeth rhwng ymddygiadau penodol i diwyllianyt ac ymddygiad cyffredinol sef y gwahaniaeth emic-etic, a gaiff ei ddefnyddio fel dau wahanol ymagwedd i astudio ymddygiad. Etic yn weld ymddygiad o’r tu allan y system ddiwylliant benodol, sy’n ymwneud a chysyniadau cyffredinol sy’n benodol i pob diwylliant ac felly yn haws i ddeall. Emic yn weld ymddygiad yn fewnol, felly cysyniadau yn benodol i ddiwylliant arbennig ac felly yn anodd i ddeall oherwydd dydi o ddim yn penodol i ddiwylliant eich hun. Wnaeth Brislin astudiaeth er etic wedi ei orfodi, awgrymodd fod egwyddor o ddeallusrwydd yn etic wedi ei orfodi. Yr etic yw ‘ddatrys problemau sydd heb eu gweld o’r blaen trwy addasu y wybodaeth sydd gennych’ mae’n cydnabod bod yr eflen o problem yn gallu amrywio o pob diwylliant, ond a yw emic o ‘gyflymder meddyliol’ yn dilys yn fyd-eang, pryd mewn diwylliant fel yn yr Unol Daleithiau mae’n angenrheidiol i cael emic o meddwl chwim mewn ysgol. I osgoi’r etic wedi ei gorfodi mae rhaid addasu ei fethodoleg fel bod yr un astudio yr un broses mewn gwahanol diwylliannau a wneir hyn yn yr astudiaeth Buss. Ond mae rhaid ddeall bod i ddim ond cymryd rhan mewn astudiaeth yn profiad rhyfedd a anghyfarwydd oherwydd efallai nad ydyn yn norm i cael ei ofyn i ateb holiaduron na i fod mewn arbrawf labordy. Ond beth bynnag ni fydd hyn yn gorfod rhwystro rhag ymgeisio i wneud astudiaeth traws diwylliannol oherwydd os bydd eich astudiaeth yn mynd i arwain ni at ddeallusrwydd fwy mae’n hanfodol i’w wneud gan mae’n hollbwysig i ddeall ddiwylliannau gwahanol.